Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf
Bydd yr Athro Chris Williams, Pennaeth Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, yn siarad yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015 ar Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf, adnodd ar y we sy’n dwyn ynghyd holl gartwnau papur newydd Joseph Morewood Staniforth o adeg y rhyfel a ymddangosodd gyntaf yn y papur Sul Prydeinig News of the World a phapur dyddiol Caerdydd, y Western Mail. Mae mwy na 1300 o gartwnau’n dilyn hynt a helynt y rhyfel ac yn dangos sut y bu i un o artistiaid gweledol mwyaf poblogaidd y cyfnod bortreadu’r gyflafan. Ceir nodiadau eglurhaol ar bob cartŵn a gwahoddir y defnyddiwr i gynnig sylwadau ar y ddelwedd a’i hystyron posibl. Ceir hefyd amrywiaeth o adnoddau ategol sydd o gymorth i roi’r cartwnydd, ei waith, a’r papurau newydd a’u cyhoeddodd yn eu cyd-destun.
Un tro, cafodd crwban distadl ei herio gan ysgyfarnog hunandybus i redeg ras, a derbyniodd yr her. Bu’r ysgyfarnog yn hyfforddi am amser maith, a llamodd ymlaen yn llawn hyder a mynd ymhell ar y blaen i’r crwban. Ond ni fu i’r crwban ddigalonni; daliodd ati yn ddyfal, gan fagu cryfder a chyflymder wrth i amser fynd heibio, tra dechreuodd yr ysgyfarnog ballu a blino ar yr ornest. Nid yw’r ras ar ben eto, ond y crwban sydd fwyaf tebygol o ennill.
Prosiect wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yw Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf.
No comments:
Post a Comment