Thursday 18 December 2014

Cyflwyno prosiect Gwaith Haearn Ynysfach yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015

Bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent ac iDEA yn cyflwyno eu prosiect arobryn ar Waith Haearn Ynysfach ym Merthyr Tudful yng nghynhadledd Gorffennol Digidol eleni. Defnyddiodd y prosiect dehongli digidol arloesol hwn wybodaeth yn deillio o ymchwilio archaeolegol a thystiolaeth gyfoes arall i ail-greu’n ddigidol ac yn hynod fanwl y gwaith haearn, y prosesau a’r awyrgylch.


 
Llun llonydd o’r animeiddiad o Waith Haearn Ynysfach

Hefyd defnyddiwyd data 3D i greu lefelau ychwanegol o ymgolli yn y safle ac ymgysylltu ag ef, er enghraifft, archwilio amser real a modelu arteffactau a’u hargraffu mewn 3D.



Golygfa ryngweithiol o adeiladau’r tŷ castio a’r burfa, sy’n cael ei symud drwy ogwyddo’r ddyfais symudol.

Friday 12 December 2014

DigVentures yn dod i Gorffennol Digidol 2015

Wedi’i sefydlu yn 2011, menter gymdeithasol arloesol yw DigVentures sy’n llunio, yn datblygu ac yn cyflwyno prosiectau archaeoleg gymunedol drwy’r DU a thu hwnt. Un o’r prosiectau hyn oedd Flag Fen Lives, y cloddiad archaeolegol wedi’i gyllido a’i gyrchu’n dorfol cyntaf yn y byd, ac yn ddiweddar maent hwy wedi lansio DigStarter, yr unig blatfform cyllido a chyrchu torfol yn y byd sydd wedi ymroi i helpu prosiectau archaeoleg a threftadaeth i roi cynlluniau cynaliadwy ar waith, meithrin cymunedau, a chodi proffil ac arian.
 


Bydd Brendon Wilkins, Cyfarwyddwr Prosiectau DigVentures yn siarad am hyn oll a mwy. Hollol hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Archaeoleg Gymunedol, Cyllido Torfol, Cyrchu Torfol a dyfodol Ymchwil Archaeolegol.



 

Tuesday 2 December 2014


Cofrestrwch nawr...

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer cynhadledd Gorffennol Digidol 2015 drwy Eventbrite. Cost y gynhadledd ddau-ddiwrnod i gynadleddwyr yw £69 (mae hyn yn cynnwys lluniaeth yn y bore a’r prynhawn a chinio), a bydd cinio cynhadledd 3 chwrs ar noson yr 11eg (yn Neuadd Dderbyn yr Arglwydd Faer) yn costio £30.

Bydd stondinau ar gael hefyd: cost stondin arddangos am ddau ddiwrnod yw £100, a chost stondin poster hanner y maint yw £50. Mae nifer cyfyngedig o stondinau ac o leoedd i gynadleddwyr, felly rydym yn eich annog i’w bwcio’n gynnar.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch bwcio, cysylltwch â susan.fielding@rcahmw.gov.uk. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Abertawe ym mis Chwefror!

Prosiectau SCAPE arobryn yn dod i Abertawe

Bydd Tom Dawson o SCAPE (Scottish Coastal Archaeology and the Problem of Erosion) yn dod i gynhadledd Gorffennol Digidol 2015 i siarad am ddau brosiect y dyfarnwyd eu bod y rhai gorau yn eu categori yng Ngwobrau Archaeoleg Prydain 2014.



Nod Scotlands Coastal Heritage At Risk, enillydd yn y categori Prosiect Cymunedol Gorau, yw dod ag archaeolegwyr gwirfoddol i gysylltiad â’r miloedd o safleoedd archaeolegol ac olion hanesyddol sy’n cael eu bygwth gan erydiad arfordirol. Drwy ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen, gall y gwirfoddolwyr fonitro, cofnodi a chyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y safleoedd hyn. Dyfarnwyd hefyd mai’r app ShoreUPDATE ynghyd â gwefan SCAPE oedd y prosiect gorau yn y categori Datblygiad Arloesol Gorau. Yn ogystal â bod yn ateb effeithiol i’r broblem o ymdrin â chofnodi ar raddfa mor fawr, mae’r prosiect wedi galluogi unigolion a chymunedau i fwynhau a chael budd o gymryd rhan mewn gwaith ymchwilio a darganfod hanesyddol ac i gyfrannu at gynlluniau ar gyfer rheoli’r dreftadaeth fregus hon. Bydd crynodeb llawnach o gyflwyniad Tom ar gael cyn bo hir ar ein tudalen siaradwyr.




Gorffennol Digidol yn croesawu Minecraft

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Adam Clarke o The Common People yn un o brif siaradwyr cynhadledd Gorffennol Digidol 2015! Artist, gwneuthurwr ffilmiau ac ymgynghorydd gemau-ar-gyfer-dysgu annibynnol yw Adam a fu’n arloesi gyda defnyddio Minecraft ym meysydd addysg ac ymgysylltu diwylliannol, treftadaeth ac amgylcheddol i gynulleidfaoedd ifanc.

Mewn prosiectau fel Tatecraft, mae Adam yn creu bydoedd hygyrch lle gall y 12 miliwn a rhagor o chwaraewyr Minecraft drwy’r byd gymryd rhan, dysgu, mwynhau a chael eu hysbrydoli. Mae hefyd wedi helpu i sefydlu prosiectau’n seiliedig ar MinecraftEdu, fersiwn o’r gêm a ddatblygwyd fel ail-gymysgiad parod-i’r-ysgol yn benodol ar gyfer yr ystafell ddosbarth. 


Monday 24 November 2014

Taflu Goleuni ar Waun Rombalds

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Sarah Ann Duffy, Richard Stroud a Louise Brown yn siarad yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015 am y prosiect CSI: Rombalds Moor, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Angel English Heritage.


 

Prosiect cymunedol oedd hwn lle cymhwyswyd technegau cofnodi a delweddu arloesol i gofnodi’r holl gerfiadau cynhanesyddol hysbys ar greigiau ar Waun Rombalds a Baildon yn y Penwynion Deheuol. Gan ddefnyddio ffurflenni Monitro Celfyddyd y Creigiau, bu’r gwirfoddolwyr yn mapio cyd-destun cerfiadau craig unigol ac yn casglu gwybodaeth am eu cyflwr.  Cafodd delweddau eu cipio er mwyn gwneud modelau 3D, gan ddefnyddio dull ffotogrametig a thrwy arbrofi gyda thechnegau cofnodi digidol eraill megis Delweddu Trawsffurfiad Adlewyrchiant a Strwythur o Fudiant. Ar sail ymdrechion 30 o wirfoddolwyr dros gyfnod o 3 blynedd, cafodd gwybodaeth am oddeutu 500 o gerfiadau craig ei chofnodi er mwyn helpu i’w monitro, eu rheoli a’u gwarchod yn y dyfodol.

 

 

Thursday 13 November 2014


Prosiect Cymorth Torfol Llŷn yng nghynhadledd Gorffennol Digidol

Bydd prosiect digidol arloesol o eiddo Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn yn cael sylw yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015. Sefydlwyd y gymdeithas yn 2013 a’i nod yw dod yn fodel ar gyfer rhith gymdeithasau, sef cymdeithasau sy’n cyfuno gwerthoedd traddodiadol cymdeithasau sirol â thechnolegau newydd, ac sy’n canolbwyntio ar ddenu cynulleidfaoedd ehangach.

Bydd Simon Jones a Jamie Davies yn siarad am brosiect cymorth torfol cyffrous yr ymgymerwyd ag ef yn 2014 i nodi hanner canmlwyddiant cyhoeddi Caernarvonshire: West III: An inventory of the Ancient Monuments in the County gan y Comisiwn Brenhinol.  Mae gwefan sy’n seiliedig ar y cyhoeddiad wedi cael ei datblygu sy’n gartref i gofnodion safle, cynlluniau a nodiadau wedi’u digido gwreiddiol y gall trigolion neu ymwelwyr ychwanegu sylwadau atynt. Gallant hefyd lwytho ffotograffau i fyny i’r wefan i roi darlun cyfoes o dreftadaeth archaeolegol ac adeiledig y Penrhyn.