Rydym yn ceisio
cyflwyniadau gan y rheiny sy’n gweithio ar brosiectau arloesol yn y meysydd a
amlinellir isod, naill ai fel ymchwilwyr neu staff, a all gyfrannu i’r
gynhadledd flaengar hon. Gellir cyfrannu ar ffurf cyflwyniadau, seminarau neu
weithdai ffurfiol, neu’n fwy anffurfiol drwy’r sesiwn ‘anghynhadledd’ neu
stondin arddangos. Manylir isod ar y gwahanol ddulliau.
Themâu:
Y ddwy brif thema ar gyfer cynhadledd eleni yw Treftadaeth
Weledol ac Archaeoleg Gyhoeddus a Chymunedol Ddigidol. Gall pynciau
gynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i: modelu ac adlunio 3D, delweddu ac
animeiddio, Realiti Estynedig, Realiti Rhithwir, gemau cyfrifiadur,
amgylcheddau ymgollol (immersive),
argraffu 3D, cyfryngau cymdeithasol, cymorth torfol (crowdsourcing), gwefannau, ymgysylltu â phobl ifanc, rhyngweithio
cymunedol, goresgyn rhwystrau, a materion etifeddiaeth.
Papurau:
Papurau 20 munud wedi’u cyflwyno yn y dull confensiynol, sef
fformat cyflwyniad a PowerPoint. Bydd 4 papur o’r fath ym mhob sesiwn a chyfnod
holi a thrafod o 10 munud ar ddiwedd pob sesiwn. Oherwydd yr amserlen dynn
iawn, mynnir bod y siaradwyr yn cadw at yr amser a neilltuir iddynt.
Sesiynau seminar:
Seminarau 45 munud i hybu trafod mater neu bwnc neilltuol.
Arweinir pob seminar gan ddau neu dri o siaradwyr a fydd yn rhoi cyflwyniadau o
5 munud ar un o’r themâu uchod wedi’u dilyn gan 30 munud o drafodaeth
gyffredinol gyda’r cynrychiolwyr.
Gweithdai:
Cynhelir y gweithdai ar fore’r 13eg o Chwefror.
Dylent gynnig arddangosiadau ymarferol neu hyfforddiant ar agwedd benodol ar
dechnoleg ddigidol sydd â chymwysiadau treftadaeth. Gall gweithdai fod yn un
sesiwn o 90 munud neu’n ddwy sesiwn o 40 munud.
Os hoffech gymryd rhan yn y
gynhadledd, anfonwch fraslun (100-150 o eiriau) o’ch cyflwyniad / trafodaeth
seminar / gweithdy arfaethedig i susan.fielding@rcahmw.gov.uk
ynghyd â’ch enw a manylion eich
sefydliad.
Sesiwn Anghynhadledd:
Cyfres o sesiynau 15 munud y gall unrhyw un sy’n mynychu’r
gynhadledd eu bwcio. Gellir bwcio sesiwn
o 9.30am ymlaen ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd yn unig, a’r cyntaf i’r felin
gaiff falu. Bydd y sesiynau hyn yn caniatáu i gynadleddwyr wneud cyflwyniad
ar unrhyw brosiect, ymchwil neu fater yn ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol
ym maes treftadaeth. Gall cyflwyniadau fod wedi’u paratoi ymlaen llaw gan
ddefnyddio PowerPoint, neu gallant fod yn ymateb i drafodaethau neu faterion
eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.
Stondinau:
Bydd nifer cyfyngedig o stondinau Arddangos neu Boster ar
gael i’w llogi am y ddau ddiwrnod. Bydd stondinau mawr ar gael am £100 neu
stondinau Poster am £50 (nid oes angen talu TAW). Gellir eu bwcio ar y ffurflen
gofrestru pan fydd ar gael.
Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyniadau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau, seminarau a
gweithdai yw Dydd Gwener, y 4ydd o Hydref 2014. Caiff penderfyniadau eu
gwneud ar ôl ystyried rhinweddau’r cyflwyniadau unigol a sut maent yn cyd-fynd
â’r rhaglen gyffredinol, a hysbysir yr ymgeiswyr erbyn Dydd Gwener, y 17eg o Hydref 2014.
Bydd y rheiny sy’n cyflwyno papur, seminar neu weithdy yn
gallu cofrestru am ddim. Byddwch cystal
â sylwi: er ein bod ni’n barod i dderbyn cyflwyniadau sy’n cynnwys mwy nag un
siaradwr, ni allwn gynnig ond un cofrestriad am ddim ar gyfer pob cyflwyniad. Ni
allwn, yn anffodus, gynnig treuliau pellach.
Yn
achos ymgeiswyr tramor, gellir ystyried y posibilrwydd o gyflwyno papurau drwy we-ffrydio
byw.
I gael mwy o wybodaeth, neu atebion i unrhyw gwestiynau,
cysylltwch â Susan Fielding yn susan.fielding@rcahmw.gov.uk
neu ar 01970 621219.
No comments:
Post a Comment