Wednesday 28 January 2015


Gorffennol Digidol 2015. Canolfan Ddarganfod Ddigidol Samsung yr Amgueddfa Brydeinig

Bydd Canolfan Ddarganfod Ddigidolyr Amgueddfa Brydeinig yn darparu cyfleoedd dysgu digidol i ryw 10,000 o ymwelwyr ysgol a theuluol bob blwyddyn. Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Juno Rae a Lizzie Edwards, cyd-reolwyr rhaglen ddysgu’r Ganolfan, yn y gynhadledd Gorffennol Digidol i gyflwyno ‘A gift for Athena’, app newydd, wedi’i greu ar y cyd â’r cwmni datblygu gemau Gamar, sy’n defnyddio realiti estynedig i gyfoethogi ymweliadau gan fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 2 ag oriel Parthenon yr Amgueddfa Brydeinig.



Gan ddefnyddio cyfrifiaduron llechen wedi’u darparu gan y Ganolfan, mae’r app yn annog y myfyrwyr i astudio cerfluniau’r Parthenon ac i ddysgu am bensaernïaeth a mytholeg Hen Roeg drwy gyfrwng amrywiaeth o heriau a phosau.


 
Bydd Juno a Lizzie yn trafod datblygiad y sesiwn ddysgu digidol arloesol hon ac yn rhannu eu profiadau drwy sôn am fanteision a heriau ymgorffori realiti estynedig yng ngweithgareddau dysgu amgueddfa.


Tuesday 6 January 2015

Hanes Prosiect Mynediad i Dreftadaeth Blaenau Gwent yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015

Nod mentrau niferus y prosiect hwn yw cyflwyno treftadaeth leol gyfoethog y Fwrdeistref Sirol i amrywiaeth mor fawr â phosibl o bobl. Bydd Frank Olding ac Emyr Morgan yn dod i’r gynhadledd Gorffennol Digidol i siarad am y prosiect a dangos sut maent hwy wedi sefydlu partneriaeth rhwng cyrff treftadaeth lleol er mwyn cynnig hyfforddiant a chyngor i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, a sut maent hwy wedi creu gwefan ar gyfer y prosiect fel bod gan y grwpiau hyn bresenoldeb ar y we a bod modd i’r cyhoedd gyrchu eu harchifau.


O Archif Cymunedol Brynmawr:  Brigâd Dân Brynmawr yn gorymdeithio adeg dadorchuddio’r gofeb ryfel ym 1927.

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys adnoddau ar-lein, fformatau ar gyfer ymweliadau ysgol, ac arddangosfeydd â thema i hybu gweithgareddau addysgol a chynyddu ymweliadau ysgol ag atyniadau treftadaeth lleol.



Monday 5 January 2015

Cyflwyno’r Prosiect Europa Barbarorum yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015

Prosiect sy’n cael ei gynnal gan wirfoddolwyr, yn academyddion, technegwyr, artistiaid ac eraill, yw Europa Barbarorum, a’i nod yw cyflwyno darlun hanesyddol gywir o’r Oes Haearn Ddiweddarach (272BC-AD14) ar ffurf fersiynau wedi’u haddasu o gemau cyfrifiadur prif ffrwd. Mae wedi derbyn clod beirniadol a phoblogaidd gan y gymuned chwarae gemau a’r boblogaeth ehangach.
 


Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Andrew Lamb, Cydlynydd ac Ymchwilydd y prosiect, yn siarad yn y gynhadledd ac yn edrych ar faterion yn ymwneud â’r modd y portreadir y gorffennol. Mae teitl ei bapur yn dweud y cyfan ... ‘Paid â’i symleiddio, mae manylder hanesyddol yn hwyl: Trafod y Prosiect Europa Barbarorum a’i effaith ar y gymuned chwarae gemau’.


 

Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf

Bydd yr Athro Chris Williams, Pennaeth Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, yn siarad yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015 ar Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf, adnodd ar y we sy’n dwyn ynghyd holl gartwnau papur newydd Joseph Morewood Staniforth o adeg y rhyfel a ymddangosodd gyntaf yn y papur Sul Prydeinig News of the World a phapur dyddiol Caerdydd, y Western Mail. Mae mwy na 1300 o gartwnau’n dilyn hynt a helynt y rhyfel ac yn dangos sut y bu i un o artistiaid gweledol mwyaf poblogaidd y cyfnod bortreadu’r gyflafan. Ceir nodiadau eglurhaol ar bob cartŵn a gwahoddir y defnyddiwr i gynnig sylwadau ar y ddelwedd a’i hystyron posibl. Ceir hefyd amrywiaeth o adnoddau ategol sydd o gymorth i roi’r cartwnydd, ei waith, a’r papurau newydd a’u cyhoeddodd yn eu cyd-destun.



Un tro, cafodd crwban distadl ei herio gan ysgyfarnog hunandybus i redeg ras, a derbyniodd yr her. Bu’r ysgyfarnog yn hyfforddi am amser maith, a llamodd ymlaen yn llawn hyder a mynd ymhell ar y blaen i’r crwban. Ond ni fu i’r crwban ddigalonni; daliodd ati yn ddyfal, gan fagu cryfder a chyflymder wrth i amser fynd heibio, tra dechreuodd yr ysgyfarnog ballu a blino ar yr ornest. Nid yw’r ras ar ben eto, ond y crwban sydd fwyaf tebygol o ennill.

Prosiect wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yw Cartwnio’r Rhyfel Byd Cyntaf.