Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Sarah Ann Duffy, Richard Stroud a Louise Brown yn siarad yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015 am y prosiect CSI: Rombalds Moor, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Angel English Heritage.
Monday 24 November 2014
Taflu Goleuni ar Waun Rombalds
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Sarah Ann Duffy, Richard Stroud a Louise Brown yn siarad yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015 am y prosiect CSI: Rombalds Moor, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Angel English Heritage.
Prosiect cymunedol oedd hwn lle cymhwyswyd technegau cofnodi a delweddu arloesol i gofnodi’r holl gerfiadau cynhanesyddol hysbys ar greigiau ar Waun Rombalds a Baildon yn y Penwynion Deheuol. Gan ddefnyddio ffurflenni Monitro Celfyddyd y Creigiau, bu’r gwirfoddolwyr yn mapio cyd-destun cerfiadau craig unigol ac yn casglu gwybodaeth am eu cyflwr. Cafodd delweddau eu cipio er mwyn gwneud modelau 3D, gan ddefnyddio dull ffotogrametig a thrwy arbrofi gyda thechnegau cofnodi digidol eraill megis Delweddu Trawsffurfiad Adlewyrchiant a Strwythur o Fudiant. Ar sail ymdrechion 30 o wirfoddolwyr dros gyfnod o 3 blynedd, cafodd gwybodaeth am oddeutu 500 o gerfiadau craig ei chofnodi er mwyn helpu i’w monitro, eu rheoli a’u gwarchod yn y dyfodol.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Sarah Ann Duffy, Richard Stroud a Louise Brown yn siarad yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015 am y prosiect CSI: Rombalds Moor, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Angel English Heritage.
Thursday 13 November 2014
Prosiect Cymorth Torfol Llŷn yng nghynhadledd Gorffennol Digidol
Bydd prosiect digidol arloesol o eiddo Cymdeithas Archaeoleg a Hanes Llŷn yn cael sylw yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2015. Sefydlwyd y gymdeithas yn 2013 a’i nod yw dod yn fodel ar gyfer rhith gymdeithasau, sef cymdeithasau sy’n cyfuno gwerthoedd traddodiadol cymdeithasau sirol â thechnolegau newydd, ac sy’n canolbwyntio ar ddenu cynulleidfaoedd ehangach.
Bydd Simon Jones a Jamie Davies yn siarad am brosiect cymorth torfol cyffrous yr ymgymerwyd ag ef yn 2014 i nodi hanner canmlwyddiant cyhoeddi Caernarvonshire: West III: An inventory of the Ancient Monuments in the County gan y Comisiwn Brenhinol. Mae gwefan sy’n seiliedig ar y cyhoeddiad wedi cael ei datblygu sy’n gartref i gofnodion safle, cynlluniau a nodiadau wedi’u digido gwreiddiol y gall trigolion neu ymwelwyr ychwanegu sylwadau atynt. Gallant hefyd lwytho ffotograffau i fyny i’r wefan i roi darlun cyfoes o dreftadaeth archaeolegol ac adeiledig y Penrhyn.
Subscribe to:
Posts (Atom)