Cynhadledd ddau ddiwrnod flynyddol wedi’i threfnu
gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n canolbwyntio ar dechnolegau a
thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu gwybodaeth
am dreftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt yw Gorffennol Digidol. Mae’n dwyn ynghyd unigolion o’r sectorau
masnachol, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol, ac o’r trydydd sector, a’i nod
yw hybu trafodaeth a gwybodaeth am y technolegau digidol sy’n cael eu defnyddio
ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu datblygu, i gofnodi a deall yr amgylchedd
hanesyddol.
Cynigir
cyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau seminar a gweithdai ac arddangosiadau
ymarferol i’r cynadleddwyr mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a’r nod yw
hybu rhwydweithio a chyfnewid syniadau. Darperir sesiynau anghynhadledd yn
ystod y prynhawn cyntaf, i roi cyfle i gynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen
ffurfiol wneud cyflwyniadau ar brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion sy’n
cyd-fynd neu ddim yn cyd-fynd â themâu’r digwyddiad eleni. Bydd stondinau
Arddangosfa a Phoster hefyd yn rhoi cyfle i arddangos prosiectau neu
gynhyrchion ac i siarad â chyrff treftadaeth, cymdeithasau, prifysgolion,
datblygwyr cynhyrchion ac adwerthwyr.
Bydd
cynhadledd Gorffennol Digidol 2015 yn cael ei chynnal yn ninas Abertawe, ail
ddinas fwyaf Cymru sydd wedi datblygu ar hyd yr arfordir tywodlyd nid nepell o
harddwch Penrhyn Gŵyr. Cynhelir y digwyddiad yn adeiladau ysblennydd Neuadd y
Ddinas sy’n cynnwys Neuadd Brangwyn, Neuadd Siôr ac Ystafell yr Arglwydd Faer.
Mae adborth
gan gynadleddwyr blaenorol wedi cynnwys sylwadau fel:
‘Mae’n dwyn ynghyd amrywiaeth o brosiectau a
sefydliadau i ddysgu oddi wrth ei gilydd a gwneud cysylltiadau proffesiynol’
‘Pynciau amrywiol, trefnus a
phroffesiynol, tîm cyfeillgar a brwd, yn dod â phobl o amgueddfeydd, diwydiant
a’r byd academaidd at ei gilydd’
‘Mae’n rhoi cyflwyniad i dopigau ond ar
lefel sydd ddim yn rhy uchel fel eu bod yn annealladwy neu’n rhy isel fel eu
bod yn ailadrodd yr hyn a wyddoch eisoes. Mae’n caniatáu ar gyfer rhwydweithio
o fewn grwpiau llai, fel y gall sgyrsiau adeiladol gael eu cynnal. Mae’n
darparu llawer o wybodaeth mewn cyfnod byr o amser!’
‘Mae’n darparu llwyfan
gwych ar gyfer rhannu a thrafod syniadau, arferion a damcaniaethau ar draws
ffin amlddisgyblaethol ac mae pawb sy’n mynychu yn cael ei gynnwys’
‘Awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar’
‘Ysbrydoledig’
No comments:
Post a Comment