Ein Noddwyr

Pecynnau Nawdd

Cynhadledd flynyddol wedi’i threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n edrych ar dechnolegau arloesol ar gyfer casglu, dehongli a lledaenu gwybodaeth am safleoedd treftadaeth yw Gorffennol Digidol. Mae’r gynhadledd wedi’i hanelu at bawb sy’n gweithio neu’n astudio yn y sectorau archaeoleg, treftadaeth, addysg ac amgueddfeydd a’i nod yw hwyluso rhwydweithio a chyfnewid syniadau’n anffurfiol ymhlith cynulleidfa gyfeillgar ac amrywiol o unigolion o gyrff masnachol, cyhoeddus a thrydydd sector.

Gwahoddir noddwyr ar gyfer y digwyddiad. Mae nifer o becynnau ar gael i gyd-fynd â’ch cyllideb, sy’n cynnig nifer o fuddion megis brandio logo, hysbysebu a’r gallu i arddangos prosiectau a chynhyrchion yn ystod y digwyddiad dau ddiwrnod.

I gael mwy o wybodaeth, neu atebion i unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Susan Fielding yn susan.fielding@rcahmw.gov.uk neu ar 01970 621219.


Pecyn Efydd

Pecyn Arian

Pecyn Aur

Cost: £150
Cost: £500
Cost: £850
Logo bach ar y wefan (hyd a lled mwyaf 30mm)
Logo canolig ar y wefan (hyd a lled mwyaf 50mm)
Logo mawr ar y wefan gyda chyswllt i wefan y cwmni (hyd a lled mwyaf 70mm)
Logo bach ar ddeunydd hyrwyddo yn y digwyddiad (hyd a lled mwyaf 30mm)
Logo canolig ar ddeunydd hyrwyddo yn y digwyddiad (hyd a lled mwyaf 50mm)
Logo canolig ar ddeunydd hyrwyddo yn y digwyddiad (hyd a lled mwyaf 70mm)
Taflen ym mhecyn y cynrychiolwyr
Taflen ym mhecyn y cynadleddwyr
Dim cyfyngiad ar ddeunydd hyrwyddo ym mhecyn y cynadleddwyr (hyd at drwch o 1.5cm ar y mwyaf)
Sylw i’r cwmni yn ystod y porthiant Twitter #digitalpast2015
1 x baner hyrwyddo yn y cyntedd (heb fod yn fwy na 0.80 x 2.00m)
1 x baner hyrwyddo yn y cyntedd (heb fod yn fwy na 0.80 x 2.00m)
 
Stondin Poster
Stondin Arddangos
 
1 x cofrestriad am ddim ar gyfer y gynhadledd
2 x cofrestriad am ddim ar gyfer y gynhadledd
 
Sylw i’r cwmni yn ystod y porthiant Twitter #digitalpast2015
2 x cinio rhwydweithio yn y gynhadledd
 
 
1 x lle i faner ar y prif lwyfan (heb fod yn fwy na 0.80 x 2.00m)
 
 
Sylw ar flog gwefan Gorffennol Digidol / blog Treftadaeth Cymru
 
 
Sylw i’r cwmni yn ystod y porthiant Twitter #digitalpast2015

No comments:

Post a Comment