Cofrestrwch nawr...
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer cynhadledd Gorffennol Digidol 2015 drwy Eventbrite. Cost y gynhadledd ddau-ddiwrnod i gynadleddwyr yw £69 (mae hyn yn cynnwys lluniaeth yn y bore a’r prynhawn a chinio), a bydd cinio cynhadledd 3 chwrs ar noson yr 11eg (yn Neuadd Dderbyn yr Arglwydd Faer) yn costio £30.
Bydd stondinau ar gael hefyd: cost stondin arddangos am ddau ddiwrnod yw £100, a chost stondin poster hanner y maint yw £50. Mae nifer cyfyngedig o stondinau ac o leoedd i gynadleddwyr, felly rydym yn eich annog i’w bwcio’n gynnar.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch bwcio, cysylltwch â susan.fielding@rcahmw.gov.uk. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Abertawe ym mis Chwefror!
No comments:
Post a Comment